Charanga Cymru: Uwchraddiwyd y llwyfan cerddoriaeth ddwyieithog
Charanga Cymru: Uwchraddiwyd y llwyfan cerddoriaeth ddwyieithog
Mae Charanga Cymru, platfform addysg gerdd ddigidol y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol wedi ei ddiweddaru! Mewn ymateb i adborth defnyddwyr, rydym wedi ychwanegu cyfoeth o adnoddau, nodweddion ac offer rhyngweithiol newydd i’r platfform. Mae dogfennau a chanllawiau ategol yn sicrhau bod athrawon a myfyrwyr yn cael y gorau o’r platform arbennig yma.
Charanga Cymru: bilingual music platform upgraded
Charanga Cymru, the National Music Service’s digital music platform, has been upgraded. In response to users’ feedback, we’ve added a wealth of new interactive resources, features and tools to the platform. Supporting documents and guides ensure teachers and students get the most from everything.
Rhai uchafbwyntiau
- Llyfrgell ehangach o adnoddau sy’n cefnogi y Cwricwlwm i Gymru, ar gyfer pob Cam Cynydd, i gefnogi gwrando, canu, byrfyfyrio, cyfansoddi a pherfformio. Mae unedau cyferbyniol yn archwilio technoleg cerddoriaeth a dysgu offerynnol.
- Adnodd ‘Adeiladwr Cwricwlwm’ newydd sbon sy’n caniatáu i athrawon greu cwricwlwm unigryw ar gyfer eu hysgol gan ddefnyddio adnoddau Charanga, eu hunedau eu hunain neu gyfuniad o’r ddau.
- Adran Offerynnol wedi’i huwchraddio sy’n cynnig sawl llwybr ar gyfer cynnal Profiadau Cyntaf (AB) ac i allugoi addysgu mwy datblygedig.
- Adran ehangach’ Dathlu Partneriaethau’ sy’n arddangos adnoddau diwylliannol arbennig gan gerddorion, arbenigwyr cwricwlwm a’n partneriaid, gan gynnwys CânSing, Sinfonia Cymru a Choleg y Drindod Llundain (Arts Award).
Selected highlights
- An expanded library of Curriculum for Wales resources for each Progression Step to support listening, singing, improvising, composing, and performing. Contrasting units explore music technology and instrumental learning.
- An all-new Curriculum Builder tool allowing teachers to create a unique curriculum for their school using Charanga resources, their own units or a combination of both.
- An upgraded Instruments section incorporating all FE resources and a new collection of ‘All pieces’ for each instrument so teachers can create their own lessons easily.
- An expanded Celebrating Partnerships section showcasing culturally rich resources from Welsh musicians, curriculum specialists and partner organisations, including CânSing, Sinfonia Cymru and Trinity College London (Arts Award).
Mae CânSing yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Charanga; rydym yn rhannu angerdd dros sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Cymru yn cael mynediad at adnoddau cerdd o ansawdd uchel, a thrwy gydweithio bydd ein hadnoddau a’n cefnogaeth yn cyrraedd cynulleidfa ehangach
CânSing is pleased to be working in partnership with Charanga; we share a passion for ensuring all children and young people in Wales have access to high-quality music resources, and by working together, our materials and support will reach a wider audience.
Mae Charanga Cymru yn adnodd eithriadol sy’n parhau i esblygu ac adlewyrchu datblygiadau’r Cynllun Cerdd Cenedlaethol yma yng Nghymru. Mae’r platform yn cynnig cefnogaeth rhwydd a safonol i bawb o bob gallu ac yn adnodd gwerthfawr i athrawon a disbyblion fel ei gilydd. Rydym yn fawr obeithio y bydd y platfform a’n gwasanaethau cerddoriaeth lleol arbennig yn dod yn rhan annatod o fywyd cerddorol eich ysgol
Charanga Cymru is an exceptional music teaching resource that continues to evolve. Not everyone has the expertise and training to teach music in class confidently, but Charanga Cymru is suitable for everyone. We hope the platform and our local music services become integral to your school’s musical life.
Newydd i Charanga Cymru?
I gefnogi dyheadau Cynllun Cenedlaethol Addysg Cerddoriaeth Llywodraeth Cymru, mae ein platfform dwyieithog yn rhad ac am ddim i bob ysgol a gefnogir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru. Os nad ydych wedi cofrestru eich Ysgol eto, ewch i www.gwasanaethcerdd.cymru.
New to Charanga Cymru?
Supporting the aims and ambitions of the Welsh Government’s National Plan for Music Education, our bilingual platform is free to all Welsh local education authority-supported schools. If you’re yet to register your school, visit www.gwasanaethcerdd.cymru.